Seren Fach Children from Seren Fach Nursery enjoying outdoor activities.Staff and children working on developing communication and interactive skills.Children of Seren Fach Nursery enjoying play time.
Seren Fach
CROESO I FEITHRINFA SEREN FACH WELCOME TO SEREN FACH NURSERY
CROESOWELCOMEGWASANAETHAUFACILITIESORIELGALLERY
COFRESTRIADREGISTRATIONCYSYLLTWCH Â NICONTACT US
Children interacting - our staff will do all they can to make your child's time with us enjoyable.

Language, Literacy and Communication - the staff follow a specific theme for a period of 6 weeks and aim to include and provide opportunities for each and every child to develop in all the six areas of learning.

CROESO I FEITHRINFA SEREN FACH

Croeso i feithrinfa Seren Fach lle caiff pob plentyn y sylw gorau.
Gwnawn bob ymdrech i ofalu am holl anghenion eich plentyn.
Mae'r feithrinfa yn lliwgar a chynnes, gydag ystod eang o deganau, cyfarpar a llyfrau, gyda chyfle i bob plentyn gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i hybu ei ddatblygiad yn gyffredinol.
Bydd y staff yn gwneud pob ymdrech i ofalu fod eich plentyn yn hapus ac yn mwynhau ei amser yn Meithrinfa Seren Fach.

Y FEITHRINFA

Meithrinfa Meirion Cyf Rhif Cofrestru 4765064

Yn Ionawr 2006 croesawyd y plentyn cyntaf i Feithrinfa Seren Fach. Hwn oedd anterth breuddwyd cwmni cymunedol a sefydlwyd gan drigolion Brithdir i ddarparu'r gwasanaeth hanfodol yma i rieni sy'n gweithio a chanddynt blant ifanc yn y gymuned leol. Erbyn hyn rydym wedi hen sefydlu ac yn gofalu am dros 36 o blant rhwng 3 mis a 5 mlwydd oed, mewn awyrgylch hapus, lliwgar ac i bwrpas. Datblygwyd y feithrinfa o'r hen Gapel Celyn a saif mewn ardal brydferth yng nghefn gwlad Dolgellau.

Mae gan staff y feithrinfa'r cymwysterau priodol i ofalu am y plant, ac mae'r feithrinfa wedi ei chofrestru gydag A.S.G.C. Rhoddwyd sylw arbennig i ddarparu amgylchedd diogel lle gall y plant chwarae a dysgu, a hynny ynghanol amrywiaeth eang o deganau a gemau, o deganau meddal traddodiadol i gyfrifiaduron cyfoes.

Cymraeg yw iaith y feithrinfa ond byddwn bob amser yn ceisio cyfathrebu gydag unigolion yn eu mamiaith, gan eu hannog i ddilyn y Gymraeg.

Paratoir bwyd maethlon yn y feithrinfa a chynigir diet cytbwys gan roi sylw i unrhyw ddiet arbennig neu alergedd sydd gan unrhyw blentyn. Gofalwn hefyd fod y plant yn cael cyfnodau o orffwys a symbyliad yn ystod y dydd, gan roi sylw i anghenion unigol pob plentyn.

ORIAU AGOR

Mae Meithrinfa Seren Fach ar agor o 8yb tan 6yh dydd Llun i ddydd Gwener drwy'r flwyddyn heblaw am y Nadolig a Gwyliau Banc. Gall y plant fynychu'r feithrinfa ar y dyddiau sy'n gyfleus ac yn hwylus i'w rhieni, am ddiwrnod llawn neu hanner diwrnod.

Am wybodaeth bellach gan gynnwys prisiau ac amodau cysyllter ag Eleri Jones, y Rheolwraig ym
Meithrinfa Seren Fach, Brithdir, Dolgellau LL40 2RP.
Ffôn: 01341 423 434, e-bost:


Yr Undeb Ewropeaidd Amcan 1 European Union Objective 1 Cyngor Gwynedd Council Cronfa Arbrofol Eryri - A Sustainable Development Fund

CROESO  WELCOME  |  GWASANAETHAU  FACILITIES  |  ORIEL  GALLERY
COFRESTRIAD  REGISTRATION  |  CYSYLLTWCH Â NI  CONTACT US
Copyright 2007 © MEITHRINFA SEREN FACH NURSERY. All Rights Reserved.
Site design by Severn Media Group Ltd.