|
CROESO I FEITHRINFA SEREN FACH
 |
 |
Croeso i feithrinfa Seren Fach lle caiff pob plentyn y sylw gorau. |
 |
 |
|
 |
 |
 |
Gwnawn bob ymdrech i ofalu am holl anghenion eich plentyn. |
 |
 |
|
 |
 |
 |
Mae'r feithrinfa yn lliwgar a chynnes, gydag ystod eang o deganau, cyfarpar a llyfrau, gyda chyfle i bob plentyn gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i hybu ei ddatblygiad yn gyffredinol. |
 |
 |
|
 |
 |
 |
Bydd y staff yn gwneud pob ymdrech i ofalu fod eich plentyn yn hapus ac yn mwynhau ei amser yn Meithrinfa Seren Fach. |
 |
Y FEITHRINFA |
Meithrinfa Meirion Cyf Rhif Cofrestru 4765064
Yn Ionawr 2006 croesawyd y plentyn cyntaf i Feithrinfa Seren Fach. Hwn oedd anterth breuddwyd cwmni cymunedol a sefydlwyd gan drigolion Brithdir i ddarparu'r gwasanaeth hanfodol yma i rieni sy'n gweithio a chanddynt blant ifanc yn y gymuned leol. Erbyn hyn rydym wedi hen sefydlu ac yn gofalu am dros 36 o blant rhwng 3 mis a 5 mlwydd oed, mewn awyrgylch hapus, lliwgar ac i bwrpas. Datblygwyd y feithrinfa o'r hen Gapel Celyn a saif mewn ardal brydferth yng nghefn gwlad Dolgellau.
Mae gan staff y feithrinfa'r cymwysterau priodol i ofalu am y plant, ac mae'r feithrinfa wedi ei chofrestru gydag A.S.G.C. Rhoddwyd sylw arbennig i ddarparu amgylchedd diogel lle gall y plant chwarae a dysgu, a hynny ynghanol amrywiaeth eang o deganau a gemau, o deganau meddal traddodiadol i gyfrifiaduron cyfoes.
Cymraeg yw iaith y feithrinfa ond byddwn bob amser yn ceisio cyfathrebu gydag unigolion yn eu mamiaith, gan eu hannog i ddilyn y Gymraeg.
Paratoir bwyd maethlon yn y feithrinfa a chynigir diet cytbwys gan roi sylw i unrhyw ddiet arbennig neu alergedd sydd gan unrhyw blentyn. Gofalwn hefyd fod y plant yn cael cyfnodau o orffwys a symbyliad yn ystod y dydd, gan roi sylw i anghenion unigol pob plentyn.
 |
ORIAU AGOR |
Mae Meithrinfa Seren Fach ar agor o 8yb tan 6yh dydd Llun i ddydd Gwener drwy'r flwyddyn heblaw am y Nadolig a Gwyliau Banc. Gall y plant fynychu'r feithrinfa ar y dyddiau sy'n gyfleus ac yn hwylus i'w rhieni, am ddiwrnod llawn neu hanner diwrnod.
CROESO WELCOME | GWASANAETHAU FACILITIES | ORIEL GALLERY
COFRESTRIAD REGISTRATION | CYSYLLTWCH Â NI CONTACT US
Copyright 2007 © MEITHRINFA SEREN FACH NURSERY. All Rights Reserved.
Site design by Severn Media Group Ltd.
|